CD Albums


Carolau o'r Stryd



Play this track streamStream Album
No audio has been added for this trackIn Dulci Jubilo / Sussex Carol
Play this track streamIn the Bleak Midwinter
Play this track streamSans Day Carol

Carolau wedi eu recordio yn stiwdio Kayleigh Morgan, Llanbedr Pont Steffan, Cerediigon, Tachwedd 2010. // Carols recorded at Kayleigh Morgan's studio, Lampeter, Ceredigion, November 2010.




Alawon o'r Stryd

Alawon o'r Stryd cover graphic

Play this track streamStream Album
Play this track streamAfon Wysg / Hen Safle Penweddig / Cwmbran / Merched Ystrad Clud
Play this track streamAlaw i Dawn Evans
Play this track streamJig Owen / Storom Edgbaston / Jig Kathryn
Play this track streamLliw Gwyn Rhosyn yr Haf / Cariad Cyntaf

BILINGUAL TEXT - PLEASE SCROLL DOWN

Mae Carwyn wedi bod yn chwarae'r delyn ers oedd yn 16 oed (1991), wedi ei ddylanwadu yn bennaf gan gerddoriaeth Ar Log. Mae Carwyn wedi bod yn bysgio ar strydoedd Cymru ers dros ugain o flynyddoedd, gan gynnwys chwech mlynedd o fysgio’n llawn amser er mwyn ariannu ei gradd doethuriaeth rhwng 1997-2003. (Yr uchafswm a enillodd mewn un diwrnod o fysgio oedd £339 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ym mis Rhagfyr 2001). Mae Carwyn wedi bod yn artist gwâdd i grwpiau cyfoes Ysbryd Chouchen, Ffynnon a SKEP, yn ogystal â grwpiau dawnsio gwerin Nantgarw, Pen-y-Fai a Chwm Rhondda.

Mae Carwyn wedi perfformio’n eang, gan gynnwys yng Ngŵyl Werin y Cnapan (Ffostrasol), Gŵyliau’r Gwyniad a Ffidlan! (Y Bala), Lowender Perran (Cernyw), Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, y Gyngres Geltaidd (Inverness a Lorient), a Britfest (Hambwrg). Mae wedi ymddangos yn achlysurol ar raglenni teledu Cymraeg (Bandit, Cerdd y Cymry, Hel Straeon, i-dot, Pnawn Da, Wedi 3, Wedi 7, Y Garej) ac wedi ymddangos ar BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales, Clyde 1 FM (Glasgow), Radio Ceredigion, Resonance FM (Llundain) a WMMT FM (Kentucky). Yn 2009, perfformiodd Carwyn yn y Cynulliad Cenedlaethol ym Mae Caerdydd ar achlysur ymddeoliad Rhodri Morgan fel Prif Weinidog Cymru. Wrth iddo rhyddhau’r Cryno Ddisg hwn, roedd Carwyn a’i fryd ar fod yn delynor gwerin lled-broffesiynol. Diolch am eich cefnogaeth!

Carwyn has been playing the harp from the age of 16 (1991), influenced primarily by the music of Ar Log. Carwyn has been busking for over twenty years, including six years of full-time busking to fund his PhD between 1997-2003. (His record total in a single day of busking was £339 at Bridgend, in December 2001). Carwyn has been also been a guest artist for the contemporary groups of Ysbryd Chouchen, Ffynnon and SKEP, and also for the Nantgarw, Pen-y-Fai and Cwm Rhondda folk dance groups.

Carwyn has performed widely, including at The Cnapan Folk Festival (Ffostrasol), The Gwyniad and Ffidlan! Festivals (Bala), Lowender Perran (Cornwall), The Llangollen International Eisteddfod, the Celtic Congress (Inverness and Lorient), and Britfest (Hamburg). He has made occasional appearances on Welsh language TV (Bandit, Cerdd y Cymry, Hel Straeon, i-dot, Pnawn Da, Wedi 3, Wedi 7, Y Garej) and has performed live on BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales, Clyde 1 FM (Glasgow), Radio Ceredigion, Resonance FM (London) and WMMT FM (Kentucky). In 2009, Carwyn performed at the National Assembly in Cardiff Bay on the occasion of the retirement of Rhodri Morgan as First Minister of Wales. At the time of the release of this CD, Carwyn had ambitions to become a semi-professional folk harpist. Thank you for your support!